Dewch i ganfod sut mae ymdrechion codi arian wedi newid drwy gymryd rhan yn yr unig astudiaeth o’i math sy’n canolbwyntio ar Gymru.

Yn 2021, gwnaethom gomisiynu ein hastudiaeth gyntaf o incwm gwirfoddol yng Nghymru. Golyga incwm gwirfoddol yr arian anghyfyngedig hwnnw a godir trwy roddion, cymynroddion a lle bynnag y caiff ei roi’n ‘wirfoddol’. Canfuom fod gweithgareddau codi arian yng Nghymru yn werth dros £550,000,000, gyda’r potensial am dwf mewn rhai meysydd, a chyfeiriad clir o ble gallai cymorth i godi cymaint o arian â phosibl yng Nghymru elwa fwyaf.

Ers hynny, rydym wedi bod yn ddiwyd y tu ôl i’r llenni yn edrych ar sut gallai a dylai CGGC a chyrff a mudiadau allweddol eraill gynorthwyo codwyr arian a phobl sy’n codi arian yng Nghymru. Mwy ar hynny’n ddiweddarach y flwyddyn hon.

BLE YDYM NI NAWR?

Mae The Funding Centre, cwmni ymgynghori annibynnol, yn diweddaru’r ymchwil hwn i CGGC er mwyn deall sut mae’r sector gwirfoddol yn cynhyrchu incwm gwirfoddol nawr, a sut mae’r dirwedd yn newid. Er bod ymarferion meincnodi eraill ar waith yn y DU, dyma’r unig astudiaeth o’i math sy’n canolbwyntio ar Gymru.

CYMRYD RHAN

Bydd eich cyfranogiad a gwybodaeth am eich gweithgareddau codi arian yn helpu mudiadau o bob maint i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch codi arian. Mae angen i ni glywed gan fudiadau gwirfoddol o bob maint sy’n gweithredu yng Nghymru, waeth a ydych chi’n gwneud llawer neu ychydig iawn o weithgareddau codi arian, a waeth a ydych wedi eich cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau neu beidio.

Rydym wedi llunio arolwg i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom. Bydd pob ymateb yn ddienw. Trwy gymryd rhan yn yr arolwg, fe gewch chi’r opsiwn o dderbyn adroddiad yn crynhoi’r canfyddiadau yn syth i’ch mewnflwch pan gaiff ei gyhoeddi.

Bydd yr adroddiad ar gael gan CGGC, a bydd yn cael sylw mewn sesiwn yn ein digwyddiad blaenllaw, gofod3. Yn y sesiwn hon, byddwn yn amlygu’r meysydd codi arian â’r mwyaf o botensial am dwf i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

CWBLHAU’R AROLWG

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 13 Mehefin 2025. Unwaith y byddwch wedi’i gwblhau, byddem yn ddiolchgar iawn pe baech chi’n ei rannu gydag unrhyw gydweithwyr a chysylltiadau sydd gennym sydd hefyd yn gweithio yn y maes codi arian yng Nghymru.

Gwneud yr arolwg.