Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the site.

Necessary

Always Enabled

Analytics

Ynglŷn â Cyllido Cymru

 


Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi creu Cyllido Cymru i’ch helpu i ddod o hyd i gyllid i’ch elusen, eich grŵp cymunedol neu’ch mudiad cymdeithasol.

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r corff aelodaeth cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

 

Mae’r porth hwn yn darparu gwybodaeth i aelodau o WCVA a Chynghorau Gwirfoddol Sirol ynglŷn â chanoedd o gronfeydd sy’n cefnogi prosiectau yng Nghymru. Gallwch gael gwybod am aelodaeth drwy gysylltu â’r mudiad o fewn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru sy’n eich cynrychioli chi.


Cofrestrwch neu fewngofnodwch i chwilio am gyfleoedd cyllido gan ddefnyddio’r chwilotwr. Mae modd chwilio yn ôl lleoliad, pwrpas, a’r swm sydd ei angen arnoch.

 

Ni ddarperir cyfleoedd am gyllid i unigolion na busnesau preifat. Gall busnesau preifat ac unigolion gysylltu â Busnes Cymru a Turn2Us am gymorth cyllido.

 

Ewch i’r dudalen Cysylltu â ni os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio’r wefan hon neu os ydych wedi gwneud cais llwyddiannus ac fe hoffech i ni rannu’ch stori.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y corff aelodaeth cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.