Mae Cyllido Cymru yn arf pwerus i chwilio am gyllid, ond wyddoch chi am y ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth i gael cyllid cynaliadwy ar gyfer eich mudiad:
Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cynnig cymorth drwy eu platfformau eraill yn ogystal â phlatfform Cyllido Cymru. Gallwch ddod o hyd i adnoddau a chyrsiau ar-lein ar ystod eang o bynciau defnyddiol ar yr Hwb Gwybodaeth. Mae gan Infoengine gyfeiriadur o wasanaethau trydydd sector yng Nghymru ac mae’n amlygu amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth fel y gallwch wneud dewis gwybodus. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Gwasanaethau Gwirfoddol Sirol lleol ac CGGC am gymorth uniongyrchol pellach.
Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yw GwerthwchiGymru. Caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus eu hysbysu bob blwyddyn drwy’r wefan hon. Cynigir y contractau hyn gan amrywiaeth eang o fudiadau a gyllidir yn gyhoeddus, gan gynnwys:
· Llywodraeth Cymru
· Awdurdodau lleol
· Ymddiriedolaethau’r GIG
· Colegau a phrifysgolion
Mae 360giving (Saesneg yn unig) yn galluogi cyllidwyr i rannu gwybodaeth am bwy, ble a beth y maen nhw’n ei gyllido mewn modd hygyrch sydd am ddim i’w ddefnyddio. Mae hwn yn lle gwych i ymchwilio i beth sydd wedi’i gyllido yn eich ardal neu faes gwaith.