Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the site.

Necessary

Always Enabled

Analytics

Cwestiynau Cyffredin

 

Ai Cyllido Cymru yw’r teclyn cywir i mi chwilio am gyllid?
Mae Cyllido Cymru yn rhestru cyllidwyr sydd â hanes o gefnogi prosiectau yng Nghymru. Os yw’ch prosiect neu’ch mudiad wedi’i leoli rywle arall yn y Deyrnas Unedig yna rhowch gynnig ar Funding Central yn Lloegr, Funding Scotland yn yr Alban a GrantTracker yng Ngogledd Iwerddon.

Sut ydw i’n dechrau defnyddio Cyllido Cymru?
I ddechrau defnyddio Cyllido Cymru fe fydd angen i chi gofrestru. Cliciwch ar ‘Cofrestru’ a darparu ychydig o wybodaeth sylfaenol. Ar ôl cyflwyno’r wybodaeth yma fe fyddwch yn cael ebost dilysu, cliciwch ar y ddolen ac fe ddylech wedyn allu mewngofnodi i’r wefan.

Pa mor aml y diweddarir Cyllido Cymru?
Diweddarir cronfa ddata Cyllido Cymru bob wythnos gyda’r cyfleoedd cyllido diweddaraf yn ymddangos ar y dudalen lanio. Os ydych yn credu y dylai’r wefan gynnwys unrhyw gronfeydd sydd ddim arni ar hyn o bryd, rhowch wybod i ni.

Dwi’n cael trafferth cael at fy nghyfrif, beth allaf ei wneud?
Cysylltwch â ni drwy ebostio fundingwales@wcva.org.uk neu ffonio 0300 111 0124 ac fe fyddwn yn fwy na pharod i helpu.

Sut ydw i’n chwilio am gyllid?
Dyluniwyd peiriant chwilio’r wefan i fod yn hawdd ei ddefnyddio. Dylai’ch chwiliad yn y lle cyntaf gynnwys ‘diben y cyllid’, yr awdurdod lleol lle mae’ch mudiad wedi’i leoli/yn gweithredu ynddo a swm y cyllid rydych ei angen.

Mae opsiynau chwilio ychwanegol ar gael os hoffech ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Unwaith y cewch ganlyniadau’ch chwiliad gallwch drefnu’ch canlyniadau yn ôl gwerth, dyddiad cau neu’r wyddor.

Sut ydw i’n ymgeisio am gyllid yr wyf wedi dod o hyd iddo ar Cyllido Cymru?
Fe fydd angen i chi fwrw golwg ar fanylion y broses ymgeisio ar wefan y cyllidwr neu gysylltu â nhw i gael y manylion.

O ble y gallaf gael rhagor o gymorth i ymgeisio am gyllid?
Mae cymorth ychwanegol ar gael gan WCVA neu’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Sut allaf ychwanegu cronfa ariannol at Cyllido Cymru?
Fe fyddem wrth ein boddau o glywed gennych! Croeso i chi ebostio fundingwales@wcva.org.uk ac fe drefnwn ni i’r cyfle ymddangos ar y wefan.

Dwi wedi gweld problem mewn cofnod cronfa ar y wefan, sut allaf roi gwybod i rywun?
Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu gwybodaeth gywir ond weithiau rydym yn methu pethau. Gyda’ch cymorth chi, gallwn wneud Cyllido Cymru y gorau y gall fod. Anfonwch y manylion atom drwy ebostio fundingwales@wcva.org.uk ac fe wnawn ni ddatrys y broblem.

O ble ydych chi’n cael gwybodaeth am grantiau?

Mae faint o wybodaeth sydd ar gael yn amrywio’n fawr o un grant i’r llall. Rydyn ni’n rhannu pa bynnag wybodaeth sydd ar gael i ni; mewn rhai achosion, yr unig beth ar gael bydd amcanion y grant neu’r gronfa, y swm sydd ar gael a chyfeiriad y cyfreithiwr i anfon y ceisiadau ato. Ar y llaw arall, mae’n bosibl y bydd gan gyllidwyr mwy o faint dudalennau o ganllawiau a gwybodaeth y byddwn ni’n cysylltu â nhw. Rydyn ni’n cael ein gwybodaeth o ffynonellau amrywiol:

Trwy gydol 2022, byddwn ni’n ceisio cael mwy a mwy o gyllidwyr i reoli eu proffiliau eu hunain a chadw’r wybodaeth am eu cyllid yn gyfredol ac yn gywir. Ni fydd hyn yn berthnasol i’r holl gyllidwyr ar Gyllido Cymru (mae mwy nag 800 arno ar hyn o bryd), gan nad oes gan rai ohonynt staff amser llawn.

Os ydych chi’n gyllidwr â diddordeb mewn rhestru eich cronfa/cyllid ar Gyllido Cymru, anfonwch e-bost atom yn fundingwales@wcva.cymru.