13/01/2025 03:27 yh
Cyllid Cyfatebol Gwyrdd
Mae Cyllid Cyfatebol Gwyrdd Big Give – mewn partneriaeth â’r Environmental Funders Network—yn rhoi’r cyfle i elusennau sy’n gweithio ar faterion amgylcheddol dybryd gael eu rhoddion wedi’u DYBLU am saith diwrnod, gan ddechrau ar #DiwrnodDaear (#WorldEarthDay).
Mae’r ceisiadau yn cau ddydd Gwener, 17 Ionawr 2025. Am ragor o fanylion ar gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i *biggive.org/green-match-fund.
YNGLŶN Â’R CYLLID
Mae’r argyfwng yn yr hinsawdd yn galw am weithredu brys. Mae pob un o’r tri degawd diwethaf wedi bod yn boethach na’r un cynt, a’r saith blwyddyn gynhesaf mewn hanes wedi digwydd rhwng 2015 a 2021. Mae’r ymgyrch yn ymrwymedig i chwyddo effaith pob rhodd, gan ddyblu’r gwahaniaeth y gall ymdrechion byd-eang ei wneud i amddiffyn ein planed a’i chadw’n ddiogel.
Waeth a yw’n ymwneud â diogelu ecosystemau, amddiffyn rhywogaethau mewn perygl neu ddatblygu ffyrdd o fyw’n gynaliadwy, bydd eich cefnogaeth ddwywaith mor bwerus i yrru newid ystyrlon.
PAM DDYLECH WNEUD CAIS:
· Cael cyllid: Mae 74% o bartneriaid elusen Big Give yn dweud eu bod wedi cael mwy o roddion drwy gyllid cyfatebol na gydag unrhyw ymdrechion codi arian tebyg.
· Ehangu eich rhoddwyr: Mae 95% o elusennau yn dweud eu bod wedi derbyn rhoddion gan gefnogwyr newydd yn ystod yr ymgyrch.
· Tyfu eich sgiliau: Dywedodd 86% o’r elusennau a gymerodd ran eu bod wedi magu hyder mewn codi arian yn ddigidol ar ôl cymryd rhan yn ymgyrch Big Give.
· Cryfhau cydberthnasau: Mae 91% o elusennau yn datblygu cydberthnasau â chefnogwyr newydd ac mae 96% yn dweud bod yr ymgyrch yn helpu i gryfhau’r berthynas â chefnogwyr presennol.
SUT MAE’N GWEITHIO?
Mae’r Cyllid Cyfatebol Gwyrdd yn defnyddio dau fodel o gyllid cyfatebol. Wrth wneud cais i Big Give, gall elusennau amgylcheddol ddewis naill ai’r model 1:1 neu’r model addewid o gyllid cyfatebol. Caiff eu cais ei asesu gan Big Give a’i bartneriaid, yr Environmental Funders Network.
Bydd elusennau llwyddiannus yn cael swm o gyllid cyfatebol wedi’i ddyrannu iddynt a bydd hwn wedi’i glustnodi ar gyfer eu mudiad. Caiff y cyllid cyfatebol hwn ei ddatgloi gan roddion cyhoeddus a roddir trwy blatfform codi arian ar-lein Big Give yn ystod wythnos yr ymgyrch.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Ionawr 2025.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i *biggive.org/green-match-fund.
*Saesneg yn unig