Bydd proses ymgeisio Grantiau Cyllid Cyfalaf VAWDASV Llywodraeth Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Mawrth 1 Hydref 2024.  

Byddant yn cynnal Sesiwn Wybodaeth ar ddydd Llun 7 Hydref rhwng 10:30 a 11:30 a.m. yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful. Bydd y sesiwn ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein. 

Rhowch wybod i nhw, erbyn 12:00 p.m. ddydd Gwener 27 Medi os ydych yn dymuno dod i'r sesiwn wyneb yn wyneb, neu ar-lein drwy e-bostio Helen.Scaife@gov.wales

Mae'r grant VAWDASV yn gynllun grant cyfalaf yn unig. Rhaid i brosiectau cyfalaf gyd-fynd â 6 amcan strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru 2022 i 2026. Gallwch ddarganfod mwy am y grant a gwybodaeth gefndir bellach am y strategaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.