13/08/2024 15:43:42
Llywodraeth Cymru - Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cynghori
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £12 miliwn y flwyddyn o gyllid grant ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2028 ar gyfer y gwaith o gydlynu a chyflwyno gwasanaethau gwybodaeth a chyngor o ran lles cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r broses ymgeisio am y cyllid grant yn agor o 25 Gorffennaf 2024, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 17 Hydref 2024 am 5 o’r gloch.
Ni dderbynnir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau.
Rhaid anfon unrhyw gwestiynau ynghylch y Grant erbyn 22 Awst 2024 am 5 o’r gloch. Dylid anfon unrhyw gwestiynau drwyRhwydweithiauCynghori@llyw.cymru
Cofiwch – caiff rhestr o’r ymatebion i’r holl gwestiynau ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a’i diweddaru’n rheolaidd. Wrth ofyn cwestiwn, felly, cofiwch y bydd eich cwestiwn a’r ymateb yn cael eu cyhoeddi.
Gweler y nodiadau canllaw a’r ffurflen gais i gael gwybod mwy. Maent i’w gweld yma.
Datganiad Ysgrifenedig: Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cynghori (25 Gorffennaf 2024) | LLYW.CYMRU