Mae VAMT yn cynnal sesiynau Cwrdd â'r Cyllidwr ar-lein gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Cymunedau Creadigol Celfyddydau Cymru.

 

CWRDD Â'R CYLLIDWR: CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI GENEDLAETHOL

Dydd Llun 2 Chwefror 2026 12 pm drwy Teams

Bydd y sesiwn anffurfiol un awr yn archwilio:

· sut y gellir defnyddio treftadaeth i ddod â buddion i bobl, lleoedd a'n hamgylchedd naturiol.

· sut i ysgrifennu cais cryf am gyllid i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd cyfle gennych hefyd i rannu eich syniadau prosiect a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

CYFARFOD Â'R CYLLIDWR: CRONFA CYMUNEDAU CREADIOL CELFYDDYDAU CYMRU

Dydd Iau 26 Chwefror 2026 10 am - 12 pm drwy Teams

I archebu lle yn y sesiwn cysylltwch â karen.vowles@vamt.net neu emily.whiteman-cranston@vamt.net