Mae Rownd Ariannu Hydref 2024 The Fore sydd ar ddod yn cynnig grantiau anghyfyngedig i helpu elusennau bach a mentrau cymdeithasol i dyfu, cryfhau, dod yn fwy effeithlon neu gydnerth.  

Dewch draw i'w sesiwn holi ac ateb ar-lein ddydd Mercher 17 Gorffennaf, 12pm i 1pm i glywed mwy gan dîm The Fore am eu prosesau a gofyn eich cwestiynau eich hun cyn i chi gofrestru i wneud cais. Gallwch gofrestru yma. Os na allwch ei wneud ar y diwrnod, cofrestrwch os hoffech dderbyn y recordiad.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, maent yn hapus i helpu – E-bostiwch nhw yn info@thefore.org