Mae tymor yr ŵyl yn agosáu'n gyflym, ac felly hefyd Her y Nadolig, lle gall eich haelioni fynd ddwywaith mor bell.

O hanner dydd ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr tan hanner dydd ddydd Mawrth, 9 Rhagfyr, gellir cyfateb pob rhodd a wneir trwy Her y Nadolig, gan ddyblu'r gwahaniaeth i'r dros 1500 o elusennau effeithiol sy'n gweithio ledled y DU ac o gwmpas y byd. Byddai'r Big Give wrth ei fodd yn cael eich help i hyrwyddo'r ymgyrch i'ch ffrindiau a'ch rhwydweithiau.

DYMA SUT ALLWCH CHI HELPU

·       Pecyn Rhannu (Saesneg yn unig) - yn cynnwys trosolwg o'n cyfeiriad creadigol ac adnoddau allweddol i'w defnyddio yn eich marchnata eich hun.

·       Negeseuon Allweddol (Saesneg yn unig) - defnyddiwch eu templedi i ddweud wrth eich cynulleidfa am yr ymgyrch ac annog rhoddion - cofiwch, gellir dyblu pob rhodd!

·       Cyfryngau Cymdeithasol - dilynwch, rhannwch a phostiwch trwy X / Facebook / LinkedIn / Instagram 

·       Lincio i biggive.org - anogwch eich cefnogwyr i gefnogi elusennau sy'n cymryd rhan ar y wefan a gwneud i'w rhoddion fynd ddwywaith mor bell.

CEISIADAU NAWR AR AGOR AR GYFER BIG GIVE

Celfyddydau er Effaith 2026

Ymgyrch ariannu cyfatebol ar-lein saith diwrnod o hyd sy'n cefnogi elusennau celfyddydau a diwylliant sy'n gweithio i gyflawni effaith gymdeithasol ledled y DU, a gynhelir mewn partneriaeth â Figurative Philanthropy for Arts & Culture (FPAC).

Mae ceisiadau'n cau 17 Rhagfyr 2025

Dysgwch fwy.