Mae Cynllun Gwneud Iawn Gwirfoddol Diwydiant Ynni Ofgem (Cynllun Gwneud Iawn am Ynni) ar agor ar gyfer ceisiadau o 12 Rhagfyr 2024, gan nodi ei ddegfed rownd ariannu.

MANYLION CYFFREDINOL

Gall elusennau a grwpiau ynni cymunedol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban wneud cais am grant drwy un o bedair ffrwd ariannu, gyda chyfanswm o £40 miliwn ar gael.   

Mae'r cynllun yn blaenoriaethu cefnogaeth i bobl agored i niwed gyda'u biliau ynni, datblygu cynhyrchion neu wasanaethau arloesol sy'n gysylltiedig ag ynni a phrosiectau i rymuso unigolion i leihau eu hallyriadau carbon.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i'r rownd ariannu hon yw 5pm ar 15 Ionawr 2025, trwy wefan Gwneud Iawn am Ynni. Rhaid i fudiiadau nad ydynt eto wedi cofrestru gyda'r cynllun wneud hynny 10 diwrnod gwaith cyn i'r gronfa berthnasol gau er mwyn caniatáu amser i gynnal gwiriadau cymhwysedd.

PEDAIR FFRWD ARIANNU

Y ffrydiau ariannu sydd ar gael yw: 

Y Brif Gronfa, sy'n cynnwys £27 miliwn – wedi'i anelu at brosiectau sy'n ceisio grantiau rhwng £50,000 a £2 filiwn a fydd yn cefnogi aelwydydd mewn sefyllfaoedd bregus.   

Y Gronfa Prosiect Bach, sy'n cynnwys £1 miliwn – wedi'i anelu at brosiectau sy'n ceisio grantiau rhwng £20,000 a £49,999 a fydd yn cefnogi aelwydydd mewn sefyllfaoedd bregus.   

Y Gronfa Arloesedd, sy'n cynnwys £6 miliwn - wedi'i anelu at brosiectau a fydd yn datblygu cynnyrch neu wasanaethau arloesol er budd aelwydydd. Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau rhwng £20,000 ac £1 miliwn.   

Mae'r Gronfa Lleihau Allyriadau Carbon, sy'n cynnwys £6 miliwn - wedi'i anelu at brosiectau a fydd yn lleihau allyriadau carbon y DU ac yn grymuso aelwydydd i leihau eu hôl troed carbon. Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau rhwng £20,000 ac £1 miliwn.

Darganfyddwch fwy ar Cyllido Cymru.