Gall mentrau cymdeithasol wneud cais am rhwng £5,000 a £10,000 tuag at fuddsoddi mewn offer a fydd yn eu helpu i dyfu a ffynnu yn Sir Fynwy.

Mae'r grant wedi'i anelu at fentrau cymdeithasol presennol sydd wedi'u lleoli yn Sir Fynwy ac sy'n ymwneud â gweithgarwch economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol buddiol.

Mae'r grant wedi'i anelu at fusnesau bach a chanolig eu maint e.e. y rhai sy'n cyflogi llai na 249 o bobl.

Mae mentrau cymdeithasol sydd â'r strwythur cyfreithiol canlynol yn gymwys i wneud cais: cwmnïau buddiannau cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant, cwmnïau cydweithredol.

Mae'r gefnogaeth wedi'i hanelu'n bennaf at fentrau cymdeithasol sydd â'r gallu i ychwanegu gwerth at yr economi leol.

Mae mwy o fanylion ar gael yma.