​Mae’n bleser gan CGGC groesawu Benefact Trust a’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol am ddigwyddiad Cwrdd â’r Cyllidwyr ar-lein.

Byddant yn cyflwyno ar fformat cylchau cyllido, yn egluro’r meini prawf cymhwysedd a’r blaenoriaethau cyllido, yn rhoi ychydig o awgrymiadau allweddol ar gyflwyno cais cryf ac yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r mynychwyr.

Y CYLLIDWYR

​Mae gan Benefact Trust ddwy brif raglen grant, Grantiau Effaith Gymunedol | Cyllid ar gyfer Prosiectau Eglwysi a Chymunedau  a Grantiau Adeiladu | Cyllid ar gyfer Trwsio Eglwysi ac Adeiladau Cristnogol. (gwefan Saesneg yn unig)

​Mae gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol ddwy ffrwd grant allweddol ar agor, Ein grantiau | Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol (gwefan Saesneg yn unig) ynghyd â chymorth prosiect cyffredinol.

​Dewch i ymuno â ni i glywed mwy!

MWY O WYBODAETH

Dydd Iau 22 Hydref

10:00 am - 11:15 am

https://luma.com/nb1bdrxq