28/05/2026 09:48 yb
Cwrdd â'r Cyllidwr: Cronfa Rosa Stand With Us 2026
Mae CGGC yn falch o groesawu Rosa, cronfa’r DU ar gyfer menywod a merched, ar gyfer digwyddiad Cwrdd â’r Cyllidwr ar-lein.
DARGANFOD MWY
Ymunwch â ni i gwrdd â rhai o’r tîm grantiau, i ddysgu mwy am eu cronfa Stand With Us a lansiwyd yn ddiweddar a sut i wneud cais. Mae’r cyllid sydd ar gael ar gyfer sefydliadau dan arweiniad menywod sy’n gweithio i fynd i’r afael â thrais dynion yn erbyn menywod a merched, ar gyfer gwaith datblygu sefydliadol. Dyma gyfle i ddysgu am feini prawf y rhaglen ac i rannu eich cwestiynau.
Mae'r gronfa'n cefnogi mudiadau i ddod yn gryfach ac yn fwy effeithiol; gan ddiwallu anghenion menywod a merched yn well a dylanwadu ar newid ehangach i bob menyw a merch ledled y DU. Gall mudiadau wneud cais am hyd at £28,000 i ariannu meysydd sy'n gysylltiedig â datblygu sefydliadol, gan gynnwys strategaeth, llywodraethu, arweinyddiaeth, cael llais cryfach o fewn mudiad y menywod, adeiladu cynghreiriau, codi arian, effaith, systemau a phrosesau.
10 am – 11 am 2 Mehefin 2026
Sesiwn am ddim