Mae’r elusen ddosbarthu grantiau, Rosa, yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 drwy ei chronfa ‘Voices from the Frontline’.

Mae’r grantiau’n cefnogi gwaith ymgyrchu a dylanwadu sy’n galluogi menywod a merched i ddefnyddio eu lleisiau i sicrhau newid. Nod y cyllid yw cryfhau gwaith ymgyrchu ac eirioli mudiadau menywod a merched, er mwyn dylanwadu ar y rhai sydd mewn grym yn y DU ar lefel leol, gymunedol neu genedlaethol.

Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys ffurflen gais a fideo byr sy’n amlinellu sut y byddwch yn defnyddio’r cyllid. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm ddydd Llun, 16 Tachwedd. Gallwch ddysgu mwy am y Gronfa a’r meini prawf cymhwysedd ar wefan Rosa: https://rosauk.org/our-programmes/voices-from-the-frontline/. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gallwch hefyd ddilyn Rosa ar LinkedIn.

MWY AM Y GRONFA

Mae cronfa ‘Voices from the Frontline’ gan Rosa yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 dros gyfnod o 18 mis i fudiadau menywod a merched. Nod y grantiau yw cefnogi gwaith ymgyrchu a dylanwadu sy’n galluogi menywod a merched i ddefnyddio eu llais i sicrhau newid.

Mae Rosa yn falch o hyrwyddo’r gwaith ymgyrchu a dylanwadu a wneir gan fudiadau menywod a merched. Mae’r elusen yn cydnabod bod pob cam ymlaen o ran diwylliant, cyfraith ac arferion ym mywydau menywod a merched dros y ddau gan mlynedd diwethaf wedi cael ei arwain gan fenywod a merched, trwy drefnu a chynnull pobl.