Mae Cardiff Educational Endowment Trust yn gwahodd ceisiadau

 Mae Cardiff Educational Endowment Trust yn gwahodd ceisiadau am gyllid i gefnogi addysg pobl ifanc o Gaerdydd a'r ardaloedd cyfagos. 

Mae grantiau gwerth hyd at £20,000 ar gael ar gyfer prosiectau neu weithgareddau sy'n canolbwyntio ar y materion addysg canlynol:

                  helpu plant ag anghenion addysg arbennig;

                  helpu gyda materion mewn perthynas ag amddifadedd technoleg neu ddigidol;

                  helpu gyda phobl ifanc sydd am ddatblygu yn eu gyrfa drwy addysg bellach neu ailhyfforddi;

                  cefnogi plant a phobl ifanc gyda sgiliau craidd, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg;

                  hyrwyddo iechyd a lles, yn benodol lles meddyliol ac emosiynol

 

PWY ALL WNEUD CAIS

                  Sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol

    • elusennau cofrestredig,
    • grwpiau neu glybiau sefydledig,
    • cwmnïau di-elw,
    • mentrau cymdeithasol
    • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
    • Ysgolion, colegau, CRhAau a sefydliadau addysgol eraill

Cafodd Ieuenctid Cymru grant gwerth £20,000 gan yr Ymddiriedolaeth ar gyfer rhaglen mentora ieuenctid i bobl ifanc yng Nghaerdydd. Bydd yr elusen yn defnyddio'r arian i ddarparu sesiynau mentora un i un a grŵp wedi'u personoli i bobl ifanc rhwng 11-17 oed sydd efallai yn cael trafferth canolbwyntio mewn addysg. Bydd yn canolbwyntio ar osod nodau, cynnig cymhwyster Gwobrau Cyflawniad Ieuenctid, ac yn darparu fframwaith strwythuredig ar gyfer datblygiad personol, gan gynnwys cyfleoedd i gynyddu hunaneffeithiolrwydd, datrys problemau, hunanhyder a chymhelliant.

I gael ffurflen gais neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at info@Cardiff-EET.org.uk