07/04/2025 10:25 yb
Y Grant ymgysylltu â democratiaeth
Rhwng 2025-26 a 2027-28, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £400,000 ar gael, y flwyddyn, i wella ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru.
Maen nhw eisiau cefnogi awdurdodau lleol, mudiadau trydydd sector, a fudiiadau dielw sy'n gweithio yng Nghymru i ddilyn dull arloesol o ymgysylltu â'r rhai sydd fel arfer wedi'u tangynrychioli yn ein democratiaeth.
PWY ALL WNEUD CAIS AM Y GRANT?
Mudiadau o Gymru sydd wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau.
Mudiadau 'dielw'.
Awdurdodau lleol yng Nghymru.
Maent yn croesawu ceisiadau sy'n cynnig gweithio partneriaeth a chydweithredol. Dylai fod un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a rheolydd data. Mae rhagor o fanylion ar gael ar Cyllido Cymru neu ar wefan Llywodraeth Cymru.