Mae CVSC yn cynnal digwyddiadau Cwrdd â'r Cyllidwr ar-lein gan gynnwys gyda Loteri Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post.

Cyfarfod y Cyllidwr / Meet The Funder

Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025, 10am - 4pm

Cyfle i siarad ag aelodau o dîm grantiau CVSC a Loteri Genedlaethol Cymru.

Archebwch le ar y digwyddiad yma.

Sgwrs gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post: Sut i Gael Cyllid!

Dydd Mawrth 12 Awst 2025, 11am - 12pm

Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post yn darparu cyllid digyfyngiad i elusennau ac achosion da sy'n gweithredu yng Nghymru. Yn 2024, darparodd Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post fwy na £3 miliwn ledled Cymru a bydd yn cynnal gweithdy yn rhoi gwybod am newidiadau i'w strwythur cyllido ar gyfer rownd gyllido olaf 2025. Ochr yn ochr â thrafod newidiadau sydd i ddod i'w chyllid, bydd y sesiwn yn rhoi gwybodaeth am ei meini prawf cymhwysedd ac yn cynnwys cyngor doeth ar gyfer llunio cais cadarn am gyllid

Archebwch le ar y digwyddiad yma.