20/08/2024 01:31 yh
Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector - camau nesaf
Mae’r ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn parhau fis Medi yma, a dyma sut gallwch chi gymryd rhan.
BETH YW’R COD YMARFER AR GYFER ARIANNU’R TRYDYDD SECTOR?
Set o egwyddorion yw’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector, a phan maen nhw’n cael eu rhoi ar waith yn dda, maen nhw’n sicrhau arferion da wrth gyllido mudiadau’r trydydd sector. Mae’r Cod yn gymwys i gyllid Llywodraeth Cymru, a chyllid Llywodraeth Cymru a gyflwynir gan fudiadau eraill yn y sector cyhoeddus, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd.
Cafodd y Cod ei gyflwyno’n gyntaf yn 2014 fel rhan o Gynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru, sy’n amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chydberthynas â’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
YR YMGYNGHORIAD
Yn 2023, aeth Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) ati i ailwampio’r Cod (mae CGGC yn aelod o’r is-bwyllgor, ynghyd â nifer o gynrychiolwyr o’r TSPC a Chanolfan Ragoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru).
Dros Haf 2023, gwnaethom ymgynghori ar bum egwyddor newydd ar gyfer y Cod hwn:
- Deialog cynnar a pharhaus
- hyblygrwydd
- sail ariannu briodol
- tegwch
- gwerthfawrogi a deilliannau
Cafodd yr egwyddorion newydd eu derbyn yn dda gan bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Nawr, rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft sy’n ehangu ar sut gellir rhoi pob egwyddor ar waith yn ymarferol.
SUT GALLWCH GYMRYD RHAN
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn mewn dwy ffordd.
1. Dod i un o’n digwyddiadau ymgynghori
Bydd ein digwyddiadau yn edrych ar senarios lle mae dilyn yr egwyddorion wedi:
- arwain at brofiadau cyllido ac effaith bositif i’r rheini sydd wedi derbyn cyllid gan y sector cyhoeddus, neu
- newid profiad rhywun sydd wedi derbyn cyllid mewn ffordd bositif neu atal effeithiau negyddol.
Hoffem hefyd glywed eich syniadau ar sut y gellid annog pobl i gydymffurfio â’r Cod a’i roi ar waith.
2. Ymateb i’n harolwg
Rhowch o’ch amser i rannu eich barn ar yr egwyddorion. Mae hwn hefyd yn gyfle i rannu eich profiadau o gyllid sector cyhoeddus da (a ddim cystal).
RHAGOR O WYBODAETH
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau ac i archebu lle, cliciwch ar ddolenni’r digwyddiadau uchod. Noder, bydd gofyn i’r rheini sy’n dod i’r digwyddiadau ddarllen y canllawiau drafft a rhoi eu sylwadau arnynt cyn y digwyddiad.