04/03/2025 04:42 yh
Tlodi Plant - Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau
Cronfa grant i gefnogi arloesi a chydweithio ar y mater o fynd i’r afael â thlodi plant.
GWEITHDAI
Er mwyn cefnogi mudiadau sy'n ystyried gwneud cais am y grant hwn, byddwn yn cynnal gweithdai holi ac ateb i ateb cwestiynau ar y broses yn unig.
Bydd 3 gweithdy yn cael eu cynnal drwy MS Teams ar
5 Mawrth 2:00 y.p. - 3:00 y.p. Gweithdy Saesneg
12 Mawrth 10:00 y.b. - 11:00 y.b. Gweithdy Saesneg
12 Mawrth 2:00 y.p. - 3:00 y.p. Gweithdy Cymraeg
Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r gweithdai, rhowch wybod i ni pa ddyddiad sydd orau ichi drwy anfon e-bost at:
ChildPovertyInnovationAndSupportingCommunitiesGrant@gov.wales
Bydd dolen MS Teams yn cael ei hanfon drwy e-bost atoch cyn y digwyddiad.
CRONFA'R GRANT ARLOESI A CHEFNOGI CYMUNEDAU (TLODI PLANT)
Datblygwyd y grant un flwyddyn yma i ddarparu cyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant. Mae'r grant ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector (sy'n cynnwys grwpiau ffydd) yn eu hymdrechion i gyflawni'r canlynol:
Gwella gallu mudiadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcan Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 | LLYW.CYMRU
Cefnogi mudiadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella cyfathrebu effeithiol, gweithio ar y cyd a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant ar lefel ranbarthol, leol neu gymunedol.
Yn amodol ar gytundeb Cyllideb Llywodraeth Cymru 2025/26, rhagwelir mai'r cyfanswm a fydd ar gael i'w ddosbarthu o dan y gronfa hon yw £1,495,000. Bydd y cyllid grant yn cael ei rannu'n ddau bot gwahanol:
Lefel Gymunedol a Lleol – hyd at £25,000 ar gael i bob cais llwyddiannus. Cymuned – Ardal sydd wedi’i lleoli’n agos yn ofodol e.e. tref, pentref neu gymdogaeth, a Lleol – ardal yn cynnwys sawl cymuned sy’n agos at ei gilydd yn ddaearyddol e.e. awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) neu ardal ehangach a allai ffinio â mwy nag un awdurdod lleol.
Lefel ranbarthol - hyd at £125,000 ar gael i bob cais llwyddiannus (Gallai’r cyllid gefnogi ardal o fwy nag un awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) mewn un ardal ddaearyddol yng Nghymru a/neu o fewn ôl-troed partneriaeth ranbarthol sy’n bodoli eisoes. Er enghraifft, (ond heb fod yn gyfyngedig i) ardal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyd-bwyllgor Corfforaethol, Bwrdd Iechyd neu Bartneriaeth Ranbarthol).
Bydd canllawiau manwl pellach a'r ffurflen gais ar gyfer y grant hwn ar gael yn fuan drwy'r ddolen ganlynol - Tlodi plant: grant arloesi a chefnogi cymunedau | LLYW.CYMRU
SYLWER - Tan y dyddiad lansio, bydd y ddolen uchod yn arwain at dudalen sy'n cynnwys crynodeb o fanylion grant 24/25. Ar ddyddiad lansio'r grant (dechrau mis Mawrth 2025) bydd y dudalen yn nodi gwybodaeth lawn am grant 2025/26.