20/10/2026 10:32 yb
Ton 5 Baromedr Cymru: ffocws ar gyllid ac arian
Pan edrychodd Baromedr Cymru ar gyllid ddiwethaf, dywedodd 45% o fudiadau fod eu sefyllfa ariannol wedi dirywio ac roedd 56% wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn yn y 12 mis blaenorol.
Rhoddodd y canfyddiadau hynny gipolwg pwysig ar y pwysau ariannol sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn 2025. Mae Ton 5, sydd ar agor rhwng 7 Hydref a 4 Tachwedd, yn dychwelyd at gyllid ac arian i ddeall beth sydd wedi newid ers hynny.
I fudiadau gwirfoddol, mae cyllid yn ymwneud â llawer mwy nag incwm. Mae’n effeithio ar p’un a all mudiadau gynllunio ymlaen llaw, cadw staff, cefnogi gwirfoddolwyr, talu costau cynyddol a pharhau i ymateb i anghenion eu cymunedau. Efallai y bydd rhai mudiadau yn profi mwy o sefydlogrwydd; gall eraill fod yn ei chael hi’n anoddach sicrhau cyllid, adennill gwir gost y gwaith maent yn ei wneud neu gynnal cronfeydd wrth gefn digonol.
PAM MAE’R DYSTIOLAETH HON YN BWYSIG?
Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod angen tystiolaeth reolaidd am iechyd ariannol a chynaliadwyedd y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod Baromedr Cymru yn ffynhonnell o dystiolaeth barhaus a all roi mewnwelediad i iechyd a chynaliadwyedd y trydydd sector yng Nghymru a, thros amser, helpu i ddeall yr effaith y mae penderfyniadau polisi yn ei chael ar y sector.
Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r sector gwirfoddol a’i gefnogi trwy Gynllun y Trydydd Sector a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector, sy’n nodi egwyddorion y bwriedir iddynt gefnogi perthnasoedd cyllido gwell a mwy cyson.
Mae tystiolaeth reolaidd gan fudiadau yn bwysig. Mae’n helpu i symud sgyrsiau am gyllid y tu hwnt i enghreifftiau unigol ac yn rhoi darlun cryfach o’r hyn sy’n digwydd ar draws gwahanol rannau o’r sector.
BETH FYDD TON 5 YN EI ARCHWILIO?
Bydd y don hon yn edrych ar:
• sefyllfa ariannol bresennol mudiadau a’u defnydd o gronfeydd wrth gefn
• newidiadau mewn incwm a ffynonellau cyllido
• profiadau o wneud cais am grantiau a chontractau a’u sicrhau
• a yw’r cyllid yn cwmpasu’r gost lawn sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau a gweithgareddau
• sut mae pwysau cyllido yn effeithio ar gapasiti mudiadau a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r arolwg ar agor i fudiadau gwirfoddol o bob math a maint yng Nghymru. Gall profiad mudiad cymunedol bach a arweinir gan wirfoddolwyr fod yn wahanol iawn i brofiad mudiad mwy o faint sy’n darparu gwasanaethau a gomisiynir; mae’r ddau yr un mor bwysig i’n helpu i feithrin dealltwriaeth gywir o’r dirwedd gyllido.
BETH FYDD YN DIGWYDD GYDA’R CANFYDDIADAU?
‘Nid ymchwil er ei lles ei hun yw hon. Mae’n dystiolaeth â phwrpas – ac rydych chi’n greiddiol iddi.’ - Matthew Brown, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol CGGC
Bydd yr ymatebion yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth gynyddol Baromedr Cymru, gan ganiatáu i newidiadau yn y sector gael eu holrhain dros amser yn hytrach na dibynnu ar un ciplun.
Bydd y canfyddiadau’n cael eu dadansoddi a’u rhannu trwy ddangosfwrdd Baromedr Cymru, gan helpu’r sector gwirfoddol i nodi pwysau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Mae tystiolaeth Baromedr Cymru yn cael ei defnyddio gan CGGC ac eraill i helpu i wneud yr achos i’r llywodraeth a chyllidwyr, llunio cymorth a gwasanaethau, olrhain newidiadau dros amser a llywio gwaith dylanwadu ar ran y sector gwirfoddol.
BETH FYDD Y MUDIADAU SY’N CYMRYD RHAN YN EI GAEL?
‘Yn hytrach na dibynnu ar anecdotau neu deimlad greddfol, bydd gennych ddata cyfredol, cymharol sy’n gwneud synnwyr ar yr hyn sy’n digwydd i’ch mudiad o fewn y sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru.’ – Yr Athro Daniel King, Prifysgol Nottingham Trent
Mae yna fanteision uniongyrchol eraill i’r mudiadau sy’n cymryd rhan.
Bydd cyfranogwyr yn cael Adroddiad Mewnwelediad Unigol, a fydd yn caniatáu iddynt weld sut mae eu profiad eu hunain yn cymharu â thueddiadau yn y sector ehangach, gan gynnwys:
• mynediad i ganfyddiadau ehangach Baromedr Cymru
• tystiolaeth i gefnogi trafodaethau strategol a chynllunio
• cyd-destun defnyddiol ar gyfer ceisiadau am gyllid a sgyrsiau gyda chyllidwyr
Byddai’n arbennig o werthfawr i fudiadau sydd wedi cymryd rhan mewn tonnau blaenorol ymateb i’r don hon. Mae pob ton yn ychwanegu pwynt arall i’r darlun, gan ei gwneud hi’n bosibl gweld nid yn unig ble mae’r sector nawr, ond sut mae’n newid.
PWY DDYLAI GWBLHAU’R AROLWG?
Yn ddelfrydol, dylai’r arolwg gael ei gwblhau gan uwch aelod o staff neu wirfoddolwr sydd â throsolwg da o sefyllfa’r mudiad, yn enwedig ei sefyllfa ariannol a’r pwysau sydd arno ar hyn o bryd.
Cymerwch ran yma https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_7QVHOkxfzmwfBAO
Yn agor ar 7 Hydref | Yn cau ar 4 Tachwedd | Yn cymryd tua 15-20 munud