21/08/2024 14:30:39
Enwebwch eich hoff godwr arian yng Ngwobrau Elusennau Cymru!
Ar ôl llwyddiant ysgubol y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl ar gyfer 2024, ac mae’r enwebiadau ar agor nawr!
Wedi’u trefnu gan CGGC, mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Gwnaeth yr enwebiadau agor ar gyfer y gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf, a’r dyddiad cau yw 13 Medi 2024. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 25 Tachwedd 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac rydym eisoes yn rhagweld noson wefreiddiol arall o ddathlu!
Gallwch enwebu eich hoff godwr arian yn y sector gwirfoddol i ennill gwobr fel rhan o gategori Codwr arian y flwyddyn. Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad, unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud cyflawniadau eithriadol yn ei weithgareddau codi arian neu weithgareddau cynhyrchu incwm ehangach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallai hyn ymwneud ag ymgyrch, digwyddiad neu weithgaredd codi arian arall.
Mae’r panel yn arbennig o awyddus i weld enghreifftiau o le mae rhywun wedi mynd ati mewn modd strategol. Er enghraifft, lle mae’r gweithgaredd wedi’i ymchwilio’n dda, wedi’i alinio â gweledigaeth a chenhadaeth y mudiad a lle mae wedi dod â budd ychwanegol i’r mudiad a/neu ei fuddiolwyr y tu hwnt i’r incwm hwn (fel codi ymwybyddiaeth o’ch brand neu achos).
PAM DDYLECH CHI GYMRYD RHAN YN Y GWOBRAU
Cymerwch ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi’r cyfle iddynt gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!
- Cydnabod - p’un ai y byddwch chi’n ennill gwobr neu’n cyrraedd y rownd derfynol, mae cael eich enwebu am wobr yn dangos i’ch mudiad neu unigolyn bod ei waith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr
- Dathlu – treuliwch amser yn dathlu llwyddiant eich tîm (neu wirfoddolwr arbennig) gyda chyfle i bawb yn y rownd derfynol ddod i’n seremoni wobrwyo odidog
- Rhowch sylw i chi’ch hun – gall gyrraedd rownd derfynol y gwobrau godi eich proffil yn fawr, o gael sylw yn y cyfryngau i ddangos ansawdd eich gwaith i gyllidwyr a phenderfynwyr
CATEGORÏAU
Isod mae’r categorïau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – gallwch wneud un enwebiad ym mhob categori:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed neu hŷn)
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (25 oed neu iau)
- Codwr arian y flwyddyn
- Hyrwyddwr amrywiaeth
- Defnydd gorau o’r Gymraeg
- Mudiad bach mwyaf dylanwadol
- Iechyd a lles
- Mudiad y flwyddyn
YR AMSERLEN AR GYFER 2024
Mae’r gwobrau ar agor nawr gyda ffenestr o bedair wythnos i gyflwyno eich enwebiadau:
- 8 Awst 2024 – Enwebiadau ar agor
- 13 Medi 2024 – Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau
- 25 Tachwedd 2024 – Seremoni Wobrwyo, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
GWNEUD ENWEBIAD
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, gan gynnwys y disgrifiadau o’r categorïau, y rheolau a sut i wneud enwebiad, ewch i gwobrauelusennau.cymru.
ENILLWYR BLWYDDYN DDIWETHAF
Roedd Gwobrau Elusennau Cymru 2023 yn cynnwys:
Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwr 26 oed neu hŷn) - Nicola Harteveld
Sefydlodd Nicola y Megan’s Starr Foundation ar ôl i’w merch, Megan, gyflawni hunanladdiad. Mae bellach yn gwirfoddoli 40 awr yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o fwlio ac i hybu iechyd meddwl da ymhlith pobl ifanc ddifreintiedig yn Sir Benfro, ac wedi trefnu 300+ awr o hyfforddiant hyd yma.
Gwobr Hyrwyddwr amrywiaeth – Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru
Mae mudiad arloesol RhCM Cymru yn cydweithio’n helaeth i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae ei lwyddiannau diweddar yn cynnwys sicrhau cwotâu rhywedd yn niwygiadau’r Senedd a chael cyllid i oroeswyr cam-drin domestig heb fynediad at arian cyhoeddus.
Mudiad y flwyddyn – Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi mynd ati’n ddiflin i gynorthwyo ac eirioli ar ran ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan ddechrau prosiect Wcráin sydd wedi bod o fudd i dros 1,700 o bobl Wcráin, dod o hyd i gartrefi i dros 200 o ffoaduriaid mewn perygl o fod yn ddigartref, a llawer mwy o wasanaethau a mentrau hanfodol.